Bwyd a Diod
Mae TÅ· Afon yn lleoliad anffurfiol braf i fwynhau bwyd a diod. Rydym yn credu mai rhywbeth i’w fwynhau yn araf ac yn gymdeithasol yw bwyd da, gyda gwydraid o rywbeth da, a’n nod yw bwydo’r corff a’r enaid.
​
Gan ein bod yn byw mewn ardal sy’n gyforiog o afonydd, llynnoedd a dolydd dilychwyn, rydym yn gwneud pob ymdrech i weithio gyda ffermwyr, cynhyrchwyr ac artisaniaid lleol i gynnig y profiad bwyd gorau posibl i’n gwesteion. Mae tarddiad ein cynnyrch yn hollbwysig.
Trwy brynu cawsiau, cigoedd, pysgod a diodydd gan fusnesau lleol, rydym yn dangos parch at ein cymuned ac yn rhoi cyfle i westeion flasu’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig.


Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr am ragor o wybodaeth


Brecwast
Rydym yn gweini brecwast bob bore yn ein hardal fwyta eang a heulog. Dyma’r dechrau gorau i’ch diwrnod a gall gwesteion ddewis brecwast cyfandirol neu frecwast llawn, sy’n cynnwys cynnyrch crwst blasus, selsig lleol ac wyau buarth.
Te Prynhawn
Beth am sbwylio’ch hun a’ch anwyliaid a mwynhau te prynhawn yng nghanol Eryri. Mae Te Prynhawn TÅ· Afon yn cynnwys teisennau, brechdanau a sgoniau a detholiad o de a choffi lleol. Gallwch ddewis fwynhau’r golygfeydd o’r teras neu aros yn y lolfa. Gweinir Te Prynhawn rhwng 2pm a 4pm, pum diwrnod yr wythnos.


Byrddau Pigo
Gan roi’r pwyslais ar ansawdd, rydym yn gweini detholiad o fyrddau pigo yn cynnwys danteithion sawrus bob nos.Meddyliwch am blatiau charcuterie gyda chawsiau Cymreig blasus a chawl cynnes gyda bara cob crystiog.
